Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

       

Dydd Mawrth 20 Ionawr 2015 a dydd Mercher 21 Ionawr 2015

Dydd Mawrth 27 Ionawr 2015 a dydd Mercher 28 Ionawr 2015

Dydd Mawrth 3 Chwefror 2015 a dydd Mercher 4 Chwefror 2015

***********************************************************************

 

Dydd Mawrth 20 Ionawr 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Ein Gorffennol a'i Ddyfodol (30 munud)

·         Gorchymyn Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2015 (30 munud)

·         Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2015 (15 munud)

·         Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Addysg Uwch (Cymru) (150 munud)

Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig.  Os nad yw’r Cynulliad yn cytuno ar y cynnig, caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.

 

Dydd Mercher 21 Ionawr 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

 

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Dwristiaeth (60 munud)

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

 

NNDM5639 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn croesawu cyflawni cynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer anhwylder yn y sbectrwm awtistig.

 

2. Yn nodi bod angen gwneud mwy i ddiwallu anghenion plant ac oedolion sydd ag awtistiaeth yng Nghymru.

 

3. Yn credu y byddai gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn arwain at fwy o eglurder ynghylch y gofal a'r cymorth y gall pobl ag awtistiaeth ei ddisgwyl.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Awtistiaeth ar gyfer Cymru.

 

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer - Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 27 Ionawr 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Cyflwyno'r Bil Llywodraeth Leol (Cymru) (60 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Gwella argaeledd rhandiroedd a gerddi cymunedol (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Adnewyddu'r Agenda Cynhwysiant Ariannol (30 munud)

·         Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2013-14 (60 munud)

·         Dadl: Adroddiad Gweinidogion Cymru ar Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus 2014 (60 munud) 

 

Dydd Mercher 28 Ionawr 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (15 munud)

 

Busnes y Cynulliad

 

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

·         Dadl fer - Mark Isherwood (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 3 Chwefror 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Ardrethi Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Gwella uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru (30 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Arloesi Meddygol (15 munud)

·         Dadl: Adolygiad o Addasiadau Byw'n Annibynnol (60 munud)

 

Dydd Mercher 4 Chwefror 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

 

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer - Peter Black (Gorllewin De Cymru) (30 munud)